Cystadleuaeth Spelling Bee 2013-14

Croeso i dudalen y Spelling Bee. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru, ac mae'n gyfle i ddisgyblion Blwyddyn 7 ar draws Gymru i ddysgu geirfa defnyddiol ar gyfer eu gwersi Ffrangeg, yn ogystal â gwella'u dealltwriaeth o sillafu Ffrangeg a chodi eu hyder personol. Os hoffech wybod mwy am gystadleuaeth llynedd, cliciwch yma i weld fideo o'r rownd derfynol o'r gystadleuaeth.

Rachel_bee_16.jpg
(llun diolch i Llwybrau at Ieithoedd/Routes into Languages)

Sut mae'r gystadleuaeth yn gweithio?

Mae 4 rownd i'r gystadleuaeth - rownd ddosbarth, rownd ysgol, rownd ranbarthol a rownd genedlaethol. Mi fydd 50 gair i'w dysgu ar gyfer pob rhan o'r gystadleuaeth (h.y. ar gyfer y rownd ddosbarth, mi fydd 50 gair i'w dysgu; ar gyfer y rownd ysgol, mi fydd 50 gair ychwanegol, felly cyfanswm o 100 o eiriau, ac yn y blaen). Mae'r geiriau i gyd yn berthnasol ar gyfer disgyblion sy'n dechrau astudio Ffrangeg, ac felly mi fydd popeth rydych yn dysgu ar gyfer y gystadleuaeth yn ddefnyddiol ar gyfer, ac yn eich cynorthwyo chi gyda eich gwersi Ffrangeg!

Yn ystod tymor yr Hydref, mi fyddwch fel dosbarth yn dysgu'r wyddor Ffrangeg. Yna, mi fyddwch yn cael eich rhestr o 50 gair, ac mi fyddwch yn eu hastudio'n reolaidd yn y dosbarth ac fel gwaith cartref er mwyn eu dysgu ar y cof. Mae'r rhestr wedi ei is-rannu i 6 grwp llai o rhwng 7 a 10 o eiriau ar y tro - mae eu dysgu mewn grwpiau llai fel hyn, yn hytrach na cheisio dysgu 50 gair gyda'i gilydd, yn golygu y bydd y gwaith dysgu dipyn yn haws i chi!

Yn y gystadleuaeth ddosbarth, a gynhelir ym mis Rhagfyr 2012, mi fydd pob disgybl yn ei dro yn cael 1 munud i sillafu cymaint o eiriau yn gywir yn Ffrangeg â sy'n bosib o'r rhestr cychwynol o 50 gair. Ar gyfer pob gair a gewch o fewn y funud hynny, mi fydd eich athrawes yn ei ddarllen yn y Gymraeg, ac mi fydd disgwyl i chi ei gyfieithu'n gywir i'r Ffrangeg ac yna ei sillafu gan ddefnyddio'r wyddor Ffrangeg.

Mi fydd y 3 sillafwr(aig) (g)orau o bob dosbarth yn cael mynd ymlaen i'r gystadleuaeth ysgol ym mis Chwefror, ac ar ôl hynny, mi fydd y 4 sillafwr(aig) (g)orau o Flwyddyn 7 yn mynd ymlaen i gynrychioli Ysgol Dyffryn Teifi yn y gystadleuaeth ranbarthol - ac os ydych yn llwyddianus yma, yn mynd ymlaen i gynrychioli'r ysgol yn y gystadleuaeth genedlaethol!

Pa eiriau sydd angen eu dysgu?

Fe welwch y rhestr o 50 gair cyntaf (Set 1) os cliciwch yma.
Fe welwch y 50 gair nesaf (Set 2) os cliciwch yma
Fe welwch y 50 gair nesaf (Set 3) os cliciwch yma.

Fe sylwch efallai eich bod yn barod yn adnabod sawl gair ar y rhestr. Fe sylwch hefyd, os edrychwch yn fanwl ar y rhestr, bod y geiriau yn cwympo'n naturiol i mewn i sawl grwp bychan, er enghraifft dyddiau'r wythnos neu rhifau 1-10. Mi fydd canolbwyntio ar ddysgu'r geiriau yn y grwpiau llai yma yn eich cynorthwyo i'w cofio.

Sut mae sillafu'r bylchau, yr atalnodi a'r gwahanol acenion?

Mae geirfa benodol i'w ddysgu ar gyfer y pethau yma. Fe welwch yr eirfa sydd ei angen yn y tabl isod.
â ê î ô û

accent circonflexe
ç

cédille
é

accent aigu
è

accent grave
ë ï ö ü

tréma

Bwlch

Blanc
Collnod

Apostrophe
Cysylltnod

Trait d'union
Marc Cwestiwn

Point d'interrogation
Gair Nesaf

Je passe

Pob hwyl gyda'r dysgu a mwynhewch!



Geirfa Set 1 - rhestri a ffeiliau sain

Grŵp 1
a) dydd da = bonjour
b) helo = salut
c) croeso = bienvenue
d) sut mae? = ça va?
e) da = bien
f) drwg = mal
g) gweddol = pas mal
h) diolch = merci
i) os gwelwch yn dda = s'il vous plaît



Grŵp 2
a) fi = je
b) ti = tu
c) ef = il
d) hi = elle
e) ni = nous
f) chi = vous
g) nhw (gwrywaidd) = ils
h) nhw (benywaidd) = elles



Grŵp 3
a) un = un
b) dau = deux
c) tri = trois
d) pedwar = quatre
e) pump = cinq
f) chwech = six
g) saith = sept
h) wyth = huit
i) naw = neuf
j) deg = dix

[ invalid file: Grwp 3 Geiriau 18-27.3ga ]

Grŵp 4
a) ie = oui
b) na = non
c) a = et
d) ond = mais
e) gyda = avec
f) heb = sans
g) er mwyn = pour
h) os = si



Grŵp 5
a) dydd Llun = lundi
b) dydd Mawrth = mardi
c) dydd Mercher = mercredi
d) dydd Iau = jeudi
e) dydd Gwener = vendredi
f) dydd Sadwrn = samedi
g) dydd Sul = dimanche




Grŵp 6
a) ddoe = hier
b) heddiw = aujourd'hui
c) yfory = demain
d) nawr = maintenant
e) y bore = le matin
f) y prynhawn = l'après-midi
g) y noswaith = le soir
h) y nos = la nuit



Geirfa Set 3

Rwyf wedi cael y cyfle i recordio geirfa Set 3 i chi felly dyma i chi'r ffeiliau sain ar gyfer y rhan nesaf o'r gystadleuaeth! :)

Grŵp 1
a) un cahier = llyfr ysgrifennu
b) un livre = llyfr
c) une règle = pren mesur
d) un stylo = ysgrifbin
e) un crayon = pensil


Grŵp 2
a) nord = gogledd
b) est = dwyrain
c) sud = de
d) ouest = gorllewin
e) le centre = y canol


Grŵp 3
a) jamais = byth
b) rarement = yn anaml
c) quelquefois = weithiau
d) souvent = yn aml


Grŵp 4
a) très = iawn
b) assez = eithaf
c) beaucoup = llawer
d) vraiment = gwirioneddol
e) peu = dim llawer


Grŵp 5
a) bavard = siaradus
b) timide = swil
c) amusant = difyr
d) travailleur = gweithgar
e) paresseux = diog
f) en forme = ffit


Grŵp 6
a) génial = gwych
b) nul = ofnadwy
c) fatigant = blinedig
d) bilingue = dwyieithog
e) rapide = cyflym
f) chouette = grêt
g) sympa = neis


Grŵp 7
a) intéressant = diddorol
b) ennuyeux = diflas
c) utile = defnyddiol
d) inutile = diwerth
e) fort = cryf
f) faible = gwan
g) agréable = dymunol
h) désagréable = annifyr
i) facile = hawdd
j) difficile = anodd



Grŵp 8
a) depuis = ers
b) malgré = er gwaethaf
c) bien sûr = wrth gwrs
d) surtout = yn enwedig
e) parce que = oherwydd
f) puis = wedyn
g) ensuite = nesaf
h) peut-être = efallai